i fyny // Cragen Beca

Ces i ddiwrnod gwych gyda Cymdeithion i fyny ac Oriel Myrddin yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ddoe.

I fyny yw cynllun datblygu artistiaid ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfa yn rhedeg gan Oriel Myrddin mewn partneriaeth รข Ysgol Gelf Caerfyrddin. 

Nod y cynllun yw meithrin talent greadigol a cyfarparu y cymdeithion i fyny dethol gydaโ€™r sgiliau a chyfleoedd gallu addilyn hyfy a sylfaen Gymreig.

Roeddem yn meddwl am brosiect Cragen Beca aโ€™r hyn y gellid ei ddysgu oโ€™r ffordd y datblygodd fel prosiect cymunedol gyda llawer o bartneriaid, cefnogwyr a chydweithredwyr.

Grลตp hyfryd o artistiaid a rhaglen wych ar gyfer cefnogi talent greadigol yn Sir Gaerfyrddin.


I spent a brilliant day with the i fyny associates and Oriel Myrddin at Carmarthenshire Museum yesterday.

i fyny is Oriel Myrddinโ€™s artist development scheme for early career artists run in partnership with Carmarthen School of Art. The scheme aims to nurture creative talent and equip the selected i fyny associates with the skills and opportunities to pursue viable and sustainable careers from a Welsh base.

We were thinking about the Cragen Beca project and what learnings there may be in the way it developed and grew as an artist led community facing project with lots of partners, supporters and collaborators.

What a brilliant group of artists and what a great programme for supporting talented creatives in Carmarthenshire.

Cragen Beca a Talog

Rhoddwyd Cregyn Rebeca i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, gan ddisgynnydd y perchennog gwreiddiol, Gwynfor Phillips yn yr 1980au ac roedd hanes y gragen hon yn rhan oโ€™r ddogfen aโ€™i gwasanaeth.

Cragen Beca โ€“ Hanes byr

Pan oeddwn yn blentyn cadwyd โ€œCragen Becaโ€ o dan glo mewn cwpwrdd pren bychan, wediโ€™i guddio y tu รดl i soffa ym mharlwr fy mam-gu yn Nhalog. Ar un adeg bu ei chartref yn dafarn y โ€œCastle Innโ€, lle y bu ei thad aโ€™i thad-cu yn dafarnwyr, ac ymhen amser etifeddodd hi y cartref.

Yn ystod Terfysgoedd Beca (1839-46) rhoddwyd y gragen hon (Cragen Beca) iโ€™r tafarnwr, sef fy hen hen dad-cu, ac feโ€™i defnyddiwyd ganddo i alwโ€™r dilynwyr i gyfarfodydd cudd ac ati. Ef oedd y cynullydd swyddogol. Oโ€™r herwydd roedd ganddo ran bwysig iawn yn y Terfysgoedd oedd yn ei roi mewn sefyllfa o berygl sifil mawr. Pan ddaeth Terfysgoedd Beca i ben aeth yr awdurdodau ati i gorlannu pawb fuโ€™n gysylltiedig รขโ€™r terfysgoedd. Cafodd llawer eu dal, carcharwyd rhai, trawsgludwyd eraill, ac aeth llawer o ddynion o Dalog i guddio mewn llofftydd ffermydd a hyd yn oed yn y coed a amgylchynaiโ€™r pentref. Maeโ€™n amlwg y buโ€™r tafarnwr yn ofalus iawn trwy gydol y cyfan gan na chafodd ei amau hyd yn oed!

Dim rhyfedd felly y cafodd y Gragen ei chuddio mor ofalus โ€“ am ganrif gyfan cafodd ei chyfrinachau eu cadw mor dawel fel na fyddai fy mam-gu ond yn ei dangos ar adegau prin, ac ni fyddai ond yn sibrwd amdani hyd yn oed! Unwaith yn unig yโ€™i clywais yn cael ei chwythuโ€™n gyhoeddus, a hynnyโ€™n ddiarwybod iddi hi. Yr achlysur oedd llwyddiant ymgeisydd Rhyddfrydol mewn etholiad seneddol. Roedd fy ewythr wedi mynd รขโ€™r gragen oโ€™i chuddfan a chwythu ei lawenydd o ben y bryn, gweithred ffรดl ac annisgybledig a barodd iddo gael ei gosbiโ€™n eiriol a chorfforol gan ei fam!

A dyma droi at darddiad Cragen. Byddaiโ€™r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno maiโ€™r trefnydd athrylithgar y tu รดl i Derfysgoedd Beca yng ngorllewin Cymru oedd cyfreithiwr o Gaerfyrddin, Mr. Hugh Williams, brodor o Fachynlleth a briododd wraig o Sanclรชr, gan weithioโ€™n gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ond byw yng Nghydweli. Derbynnir fod ganddo dueddiadau radical a bod ganddo gydymdeimlad รขโ€™r Siartwyr. Ffermwyr a gweithwyr fferm oedd Merched Beca yn bennaf, y rhan fwyaf ohonynt yn anllythrennog, ac ni fyddai gan y rhan fwyaf ohonynt y gallu i drefnu ymgyrch guddiedig ond disgybledig iawn oโ€™r fath. Roedd yn galw am feddwl craff, deallus i gynnull cymunedau gwasgaredig o ffermwyr rhwystredig iawn yn rym effeithiol, a phwy well naโ€™r cyfreithiwr pragmataidd o Gaerfyrddin?

Maeโ€™n ymddangos fod gan Hugh Williams frawd a wasanaethai yn gonswl neuโ€™n Was Sifil yn Sierra Leone, aโ€™i fod wediโ€™i leoli yn Freetown, a sefydlwyd yn wreiddiol yn Granville yn 1788 yn gartref i gaethweision o Affrica a ryddhawyd. Roeddent wedi dod o ynysoedd y Caribรฎ a thir mawr America.

Yn ystod rhyfel 1939 โ€“ 45 gwasanaethais yn y Llynges Frenhinol, ac yn ystod un o fy ymweliadau รข Freetown gwelais angladd brodor. Arweinydd y cynhebrwng oedd dyn a chwythaiโ€™r gragen dro, gan gyfeirioโ€™r sain tuag at y mรดr. Roedd y sain yn ddigamsyniol, yr un sain โ€œhwtianโ€ adleisiol ag a glywais yn Nhalog flynyddoedd ynghynt! Buom yn siarad รขโ€™r dyn hwn a esboniodd maiโ€™r traddodiad oedd hysbysuโ€™r ysbrydion oedd yn byw yn y mรดr pryd bynnag y byddai enaid morwr yn dychwelyd iโ€™w orffwysfan terfynol. Feโ€™m hatgoffwyd yn syth o dduw Triton yn chwedloniaeth Roeg a reolaiโ€™r tonnau trwy chwythu ei gragen dro.

A ywโ€™n rhy annhebygol i dybio y cafodd Hugh Williams y gragen, a ddaeth yn โ€œGragen Becaโ€, gan ei frawd, a bod yntau yn ei dro wediโ€™i rhoi i dafarnwr y Castle Inn Talog iโ€™w defnyddio gan y โ€œcynullyddโ€ i alwโ€™r dilynwyr?

(A chan nad ywโ€™r gragen yn gynhenid i Orllewin Affrica, a yw y tu hwnt i ffiniau posibilrwydd y daethpwyd รข hi i Sierra Leone gan un oโ€™r caethweision a ryddhawyd?

*Dyfalu yw hyn, wrth gwrs.

Menywod mewn Ffocws // Women in Focus

Carmarthen School of Artโ€™s International Womenโ€™s Day 2022 Symposium in collaboration with Oriel Myrddin Gallery
Imagine a gender equal world.

A world free of bias, stereotypes and discrimination. A world that’s diverse, equitable, and inclusive. A world where difference is valued and celebrated. Together we can forge women’s equality. Collectively we can all #BreakTheBias.

This symposium will look closely at our position as women, and those who identify as female who are freelancers, artists, and those working in the creative or educational sectors through debate, dialogue and collaboration. As educators, artists, makers how are we influencing future students through mentoring, visibility, promotion and access?

Celebrate women’s achievement. Raise awareness against bias. Take action for equality.


Symposiwm Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 Ysgol Gelf Caerfyrddin mewn cydweithrediad ag Oriel Myrddin Gallery
Dychmygwch fyd cyfartal rhwng y rhywiau.

Byd sy’n rhydd o ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu. Byd sy’n amrywiol, yn deg ac yn gynhwysol. Byd lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i ddathlu. Gyda’n gilydd gallwn greu cydraddoldeb menywod. Gyda’n gilydd gallwn ni i gyd #BreakTheBias.


Dathlu cyflawniad merched. Codi ymwybyddiaeth yn erbyn rhagfarn. Gweithredu dros gydraddoldeb.
Bydd y symposiwm hwn yn edrych yn fanwl ar ein sefyllfa fel menywod, aโ€™r rhai syโ€™n uniaethu fel merched syโ€™n weithwyr llawrydd, yn artistiaid, aโ€™r rhai syโ€™n gweithio yn y sectorau creadigol neu addysgol trwy ddadl, deialog a chydweithio. Fel addysgwyr, artistiaid, gwneuthurwyr sut ydyn ni’n dylanwadu ar fyfyrwyr y dyfodol trwy fentora, gwelededd, hyrwyddo a mynediad?