Stori Cragen Beca

Mae Cragen Beca yn gragen dro y Frenhines (Lombatus gigas) sy’n tarddu o Fôr y Caribî a gogledd-orllewin trofannol Môr yr Iwerydd, o Bermuda i Frasil.

Tynnwyd y pig oddi ar y gragen fel y gellir ei defnyddio’n gorn. Honnir y cafodd ei chwythu i ymgynnull dilynwyr Beca o Dalog yn ystod Terfysgoedd Beca (1839 – 44) adeg penllanw’r cythrwfl.

Roedd Sir Gaerfyrddin yn ganolog i Derfysgoedd Beca lle y cododd casgliad o ffermwyr a gweithwyr fferm yn bennaf yn erbyn awdurdodau’r dydd. Mewn ymgyrch o brotest buont yn chwalu tollbyrth ar draws yr ardal wrth ymateb i’r hyn oedd yn cael ei ystyried yn drethi annheg ymhlith enghreifftiau eraill o galedi a orfodwyd adeg amddifadedd mawr yn y rhanbarth.

Roedd y terfysgwyr yn enwog am wisgo fel menywod wrth gyflawni eu campau liw nos, gyda’u harweinydd beiddgar, a alwyd yn Beca, ar flaen y gad.


Rhoddwyd Cragen Beca i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn yr 1980au ac roedd yr hanes hwn o’r gragen yn rhan o’r ddogfennaeth a ddaeth gyda hi.

Cragen Beca – Hanes byr

Pan oeddwn yn blentyn cadwyd “Cragen Beca” o dan glo mewn cwpwrdd pren bychan, wedi’i guddio y tu ôl i soffa ym mharlwr fy mam-gu yn Nhalog. Ar un adeg bu ei chartref yn dafarn y “Castle Inn”, lle y bu ei thad a’i thad-cu yn dafarnwyr, ac ymhen amser etifeddodd hi y cartref.

Yn ystod Terfysgoedd Beca (1839-46) rhoddwyd y gragen hon (Cragen Beca) i’r tafarnwr, sef fy hen hen dad-cu, ac fe’i defnyddiwyd ganddo i alw’r dilynwyr i gyfarfodydd cudd ac ati. Ef oedd y cynullydd swyddogol. O’r herwydd roedd ganddo ran bwysig iawn yn y Terfysgoedd oedd yn ei roi mewn sefyllfa o berygl sifil mawr. Pan ddaeth Terfysgoedd Beca i ben aeth yr awdurdodau ati i gorlannu pawb fu’n gysylltiedig â’r terfysgoedd. Cafodd llawer eu dal, carcharwyd rhai, trawsgludwyd eraill, ac aeth llawer o ddynion o Dalog i guddio mewn llofftydd ffermydd a hyd yn oed yn y coed a amgylchynai’r pentref. Mae’n amlwg y bu’r tafarnwr yn ofalus iawn trwy gydol y cyfan gan na chafodd ei amau hyd yn oed!

Dim rhyfedd felly y cafodd y Gragen ei chuddio mor ofalus – am ganrif gyfan cafodd ei chyfrinachau eu cadw mor dawel fel na fyddai fy mam-gu ond yn ei dangos ar adegau prin, ac ni fyddai ond yn sibrwd amdani hyd yn oed! Unwaith yn unig y’i clywais yn cael ei chwythu’n gyhoeddus, a hynny’n ddiarwybod iddi hi. Yr achlysur oedd llwyddiant ymgeisydd Rhyddfrydol mewn etholiad seneddol. Roedd fy ewythr wedi mynd â’r gragen o’i chuddfan a chwythu ei lawenydd o ben y bryn, gweithred ffôl ac annisgybledig a barodd iddo gael ei gosbi’n eiriol a chorfforol gan ei fam!

A dyma droi at darddiad Cragen. Byddai’r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno mai’r trefnydd athrylithgar y tu ôl i Derfysgoedd Beca yng ngorllewin Cymru oedd cyfreithiwr o Gaerfyrddin, Mr. Hugh Williams, brodor o Fachynlleth a briododd wraig o Sanclêr, gan weithio’n gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ond byw yng Nghydweli. Derbynnir fod ganddo dueddiadau radical a bod ganddo gydymdeimlad â’r Siartwyr. Ffermwyr a gweithwyr fferm oedd Merched Beca yn bennaf, y rhan fwyaf ohonynt yn anllythrennog, ac ni fyddai gan y rhan fwyaf ohonynt y gallu i drefnu ymgyrch guddiedig ond disgybledig iawn o’r fath. Roedd yn galw am feddwl craff, deallus i gynnull cymunedau gwasgaredig o ffermwyr rhwystredig iawn yn rym effeithiol, a phwy well na’r cyfreithiwr pragmataidd o Gaerfyrddin?

Mae’n ymddangos fod gan Hugh Williams frawd a wasanaethai yn gonswl neu’n Was Sifil yn Sierra Leone, a’i fod wedi’i leoli yn Freetown, a sefydlwyd yn wreiddiol yn Granville yn 1788 yn gartref i gaethweision o Affrica a ryddhawyd. Roeddent wedi dod o ynysoedd y Caribî a thir mawr America.

Yn ystod rhyfel 1939 – 45 gwasanaethais yn y Llynges Frenhinol, ac yn ystod un o fy ymweliadau â Freetown gwelais angladd brodor. Arweinydd y cynhebrwng oedd dyn a chwythai’r gragen dro, gan gyfeirio’r sain tuag at y môr. Roedd y sain yn ddigamsyniol, yr un sain “hwtian” adleisiol ag a glywais yn Nhalog flynyddoedd ynghynt! Buom yn siarad â’r dyn hwn a esboniodd mai’r traddodiad oedd hysbysu’r ysbrydion oedd yn byw yn y môr pryd bynnag y byddai enaid morwr yn dychwelyd i’w orffwysfan terfynol. Fe’m hatgoffwyd yn syth o dduw Triton yn chwedloniaeth Roeg a reolai’r tonnau trwy chwythu ei gragen dro.

A yw’n rhy annhebygol i dybio y cafodd Hugh Williams y gragen, a ddaeth yn “Gragen Beca”, gan ei frawd, a bod yntau yn ei dro wedi’i rhoi i dafarnwr y Castle Inn Talog i’w defnyddio gan y “cynullydd” i alw’r dilynwyr?

(A chan nad yw’r gragen yn gynhenid i Orllewin Affrica, a yw y tu hwnt i ffiniau posibilrwydd y daethpwyd â hi i Sierra Leone gan un o’r caethweision a ryddhawyd?

*Dyfalu yw hyn, wrth gwrs.


Mae’r hanes hwn yn gwau naratif llawn dirgelwch a gwrthryfel ynghylch Cragen Beca. Aiff ymlaen i ddyfalu am ei gwreiddiau posib, ond mae’n debyg na chawn byth wybod sut yn union y cyrhaeddodd ben ei thaith mewn tafarn bentref ym mryniau Sir Gaerfyrddin.

Mae ymchwil mwy diweddar wedi bwrw amheuaeth ar natur ymwneud y cyfreithiwr Hugh Williams gydaMerched Beca (gan gynnwys yr awgrym efallai mai ef oedd Beca), er ei fod yn sicr yn pleidio eu hachos ac y bu’n cynrychioli llawer o’r terfysgwyr, gan gynnwys y rhai o Dalog, yn gyfreithiol.

Hefyd, cafodd yr honiad na fyddai ffermwyr a gweithwyr fferm y cylch wedi gallu trefnu eu gweithredoedd eu hunain yn ystod Terfysgoedd Beca ei herio gan ysgolheigion diweddar. Nid yw hynny, wrth reswm, yn dileu’r posibilrwydd y cyrhaeddodd y gragen yng ngorllewin Cymru trwy gysylltiadau teuluol Williams.

Mewn gwirionedd, roedd brawd Hugh Williams, William Williams yn forwr. Credir y cafodd ei recriwtio i wasanaethu yn Llynges Brasil o dan enw Joao (John) Williams yn hurfilwr. Gwasanaethodd am bum mlynedd o 1823 i 1828 o dan fenter i recriwtio cyn swyddogion Llynges Prydain, dynion a gwirfoddolwyr fel rhan o Ryfel Annibyniaeth Brasil o Bortiwgal. Cafodd ei recriwtio yn Llundain, a gwasanaethodd yn y lle cyntaf yn wirfoddolwr o dan y rebel o gyn-Lyngesydd y Llynges Brydeinig, y Llyngesydd Thomas Cochrane ar ei fanerlong Pedro Premeiro yn ystod y gwarchae ar Bahia. Yno, gwasanaethodd gyda milwyr o Brydain a Gogledd America yn ogystal â môr-filwyr du oedd newydd gael eu rhyddhau o gaethwasiaeth. Yn dilyn annibyniaeth Brasil, parhaodd i wasanaethu ar longau rhyfel yn is-lefftenant ac yn lefftenant, yn ymladd yn erbyn yr Ariannin yn Rhyfeloedd y Cisplatine. Nid oes, fodd bynnag, unrhyw gyfeiriad at ei bresenoldeb yn Freetown, Sierra Leone.

Efallai y treuliodd amser yn y Drefedigaeth y Goron Brydeinig hon ar ddiwedd ei gontract cyn dychwelyd i Gymru, lle y rhagdybir y daeth i fyw gyda’i frawd Hugh.

Nid yw’n dilyn y byddai’r swydd wedi bod yn un fanteisiol: “The loss of colonial officials and administrators was so common that the surviving officials had to hold numerous posts at the same time, while they awaited new arrivals from Britain. Of all the British colonies to which a sailor or colonial administrator could be dispatched, Sierra Leone, in the 1820s, remained the one with the highest rate of death by disease.” [1] A gyrhaeddodd William yn ôl yn Sir Gaerfyrddin wedi’i wanhau’n barod gan glefyd trofannol fel Malaria? A ddaeth â llawn ces o gofroddion o’i deithiau gydag ef? Trymped Cragen Dro y Frenhines hyd yn oed, a ddefnyddiwyd yn gorn arwyddo yn y llynges neu a gipiwyd yn un o wobrau rhyfel?

Bu farw William Williams yn 1832 yn 37 oed, ac aethpwyd â’i gorff ar orymdaith i lawr afon Tywi i’w gladdu yn eglwys Sant Ishmael. Ysgrifennodd y Parchedig Thomas Jenkins (tad y dyddiadurwr enwog o Sir Gaerfyrddin Thomas Jenkins a chyfaill i Hugh Williams) gerdd The Sailor’s Grave er cof amdano. Mae’n demtasiwn dychmygu’r Gragen yn cael ei chwythu i lywio ei enaid tua’r môr ar ei daith olaf ar aber afon Tywi. Mae is-destun hysbysiad ei farwolaeth yn The Cambrian [2] yn darlunio William yn dipyn o anturiaethwr a chnaf. Mae’r gwas sifil bonheddig yn llenwi ffurflenni mewn tref a sefydlwyd adeg diwedd caethwasiaeth a awgrymir yn nogfennau Cragen Beca yr amgueddfa yn ymddangos ychydig yn llai credadwy. Yr hyn a gawn yn hytrach yw hurfilwr uchelgeisiol yn llynges gwlad yr oedd ei masnach gaethwasiaeth ei hun yn ei hanterth yn yr 1820au. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod gwasanaeth Williams ei hun yn gyfyngedig i ymrafael â llyngesau Portiwgal a’r Ariannin. Claddwyd ei frawd Hugh yn yr un bedd.


Ceir tystiolaeth gadarn y cafodd Cragen Beca ei chwythu yn Nhalog yn 1910.

Mae erthygl yn The Welshman yn cadarnhau y defnyddiwyd ‘historic horn of Rebecca Riots fame’ [3] i groesawu ymweliad gan y gwleidydd Rhyddfrydol a’r cenedlaetholwr Cymreig cadarn John Hinds i Dalog fel rhan o’i ymgyrch etholiadol yn 1910. Mae’n debyg fod “…telling speech…delivered with great earnestness…” Mr Hinds yng Nghapel Bethania a “…greatly denounced the power of the Lords…” [3] yn cyfeirio at Fil Datgysylltu Cymru a ddarllenwyd yn yr Arglwyddi yn 1909 a lethwyd gan faterion eraill oedd o fwy o bwys ar y pryd. Cyfeiriai’r bil hwn at ddatgysylltiad anghydffurfwyr yng Nghymru o’r Eglwys Anglicanaidd. Fodd bynnag, roedd gan y mater ystyr llawer dyfnach i bobl Talog oedd yn gwrando’r diwrnod hwnnw “…Welsh disestablishment was also an issue about the recognition of Welsh identity…” [4], roedd yn rhan o frwydr hir dros ddatganoli yng Nghymru.

Cyfeiria ysgrif goffa Hinds yn The Welshman (3ydd Awst 1928) at ‘the esteem in which he was held by people of all sects and creeds, high and low, rich and poor, in every walk of life… a man who had been their true friend, and whose beautiful character (typified by his honesty, sincerity and simplicity) had won for him a warm place in their hearts’. [5] Gwasanaethodd hefyd yn Arglwydd Raglaw Sir Gaerfyrddin a Maer Caerfyrddin, a rhoddodd Barc Hinds i’r dref yn 1927.

Mae’n ddiddorol nodi bod Capel Bethania, tua 70 mlynedd ynghynt, wedi croesawu areithiwr angerddol arall yn ystod cyfnod Terfysgoedd Rebecca. Cyhoeddwyd The Narrative of the Adventures and Escape of Moses Roper from American Slavery, ym 1837 a oedd yn adrodd hanes Moses Roper, sef caethwas du Americanaidd a oroesodd, a fu’n teithio o gwmpas y byd i adrodd ei hanes er mwyn cefnogi dileu caethwasiaeth.  Erbyn 1841 roedd yr hanes wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg ac erbyn 1844 roedd hyd at 5,000 o gopïau wedi’u gwerthu. Bu Moses yn ymweld â llawer o gapeli a neuaddau bach ledled Cymru gan gynnwys Capel Bethania yn Nhalog. Er nad ydym yn gwybod union ddyddiad ei ymweliad, mae’n ddiddorol iawn meddwl sut dderbyniad y cafodd ei hanes yn y pentref o bosibl a hynny yn ystod cyfnod prysur iawn yn wleidyddol a chymdeithasol.


Felly, efallai y gellir ystyried Talog yn bair gwrthryfel ac anghydffurfiaeth, ac mae’n deg rhagdybio y chwaraeodd Cragen Beca rôl yn tanio’r egni a’r ysbryd yn y rhan hon o’r sir. Mae’n gynhyrfus dychmygu’r alwad honno i weithredu yn seinio ar draws cefnwlad Caerfyrddin, yn galw ar yr anfodlon i leisio barn a dangos ochr.

Mae gan bentref bychan Talog yn Sir Gaerfyrddin ran ganolog i’w chwarae yn hanes Terfysgoedd Beca. Yn anterth yr helyntion ym Mai a Mehefin 1843, roedd tollborth Heol Ddŵr yng Nghaerfyrddin ar yr hen heol o Gastell Newydd i mewn i’r dref eisoes yn destun dadl ac roedd wedi cael ei chwalu. Roedd Beca wedi bygwth na ddylai neb dalu’r doll gan ofni dial tra bod y tollborth i lawr. Cafodd tri o Ferched Beca o Dalog (yr honnir eu bod yn bresennol ar achlysur diweddaraf dinistrio’r tollborth) eu dirwyo am beidio talu’r doll. John Harries o Talog Mill, Thomas Thomas, Perchennog Siop o Dalog a’r Gwas Fferm, Samuel Bowen o Frynchwyth.

Anfonwyd mintai o bedwar cwnstabl ar droed o Gaerfyrddin i Dalog i gyflwyno gwarantau atafaelu oherwydd methiant i dalu. Roedd sgowtiaid Beca yn effro i hyn a darlledwyd y newyddion eu bod ar eu ffordd. Cyfeiria hanesion at fiwglwr mewn gwyn yn chwythu corn, Cragen Beca efallai, ac at y cwnstabliaid yn cael eu hatal ym Mlaenycoed gan Ferched Beca yn eu gwisgoedd cudd, a hwythau’n cael eu hanfon yn ôl i Gaerfyrddin. Yna aeth carfan o Ferched Beca o bentref cyfagos Abernant ati i ddinistrio coetir a rhan o wal addurniadol oedd newydd ei chodi ar dir yr ynad lleol David Davies o Drawsmawr oedd wedi awdurdodi cyflwyno’r warant.

A hwythau wedi’u gwylltio ac yn teimlo embaras oherwydd yr anhrefn digywilydd hwn, anfonodd swyddogion fintai arall i Dalog ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Y tro yma anfonwyd 12 o gwnstabliaid a chwnstabliaid arbennig a 28 o bensiynwyr y fyddin heb arfau ar droed i gyflwyno’r gwarantau. Cyraeddasant yn Talog Mill, a chipio eiddo oddi wrth John Harries, ond erbyn hyn roedd y biwglwr wedi deffro’r gymdogaeth ac roedd tua 300 o ddynion mewn cuddwisgoedd wedi ymgynnull. Llwyddodd Thomas Thomas i ddarbwyllo’r fintai o Gaerfyrddin i roi eiddo Harries yn ôl iddo gan addo y byddai’n talu ei ddirwy, ag yntau eisoes wedi talu ei ddirwy ef. Dyma lle y cymerodd Beca afael ar y sefyllfa, ac ar ôl brwydr fer gorfodwyd y cwnstabliaid a’r cwnstabliaid arbennig i wagio eu harfau ac ildio eu bwledi a’u gynnau. Yna cawsant eu martsio i Drawsmawr unwaith eto, cafodd y warant ei malurio’n seremonïol a gorfodwyd y cwnstabliaid i orffen y gwaith a ddechreuwyd yn dymchwel wal addurniadol David Davies. Anfonwyd pensiynwyr y fyddin yn ôl i’r dref yn ddigon cwrtais gan Beca gyda geiriau parchus am eu gwasanaeth hir i’w gwlad. Beth amser wedyn anfonwyd y cwnstabliaid yn ddi-lol ar eu holau gyda bwledi yn chwibanu uwch eu pennau.

Roedd yr ychydig ddyddiau nesaf yn brysur iawn ac fe alwyd cyfarfodydd i gefnogwyr Beca ar draws yr ardal, gan ennyn cefnogaeth gyda’r bygythiadau arferol a chasglu arian. Yng Nghaerfyrddin yn y cyfamser tyfodd dicter yr awdurdodau ac anfonwyd cymorth milwrol gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Erbyn hyn roedd gorymdaith fawr yn cael ei threfnu i gyflwyno achwyniadau Beca gerbron yr ynadon yng Nghaerfyrddin ac i fynnu fod dirwyon dynion Talog yn cael eu had-dalu. Ar ddydd Llun 19 Mehefin 1843 am 11am cyfarfu o leiaf 300 o gefnogwyr Beca ar gefn ceffylau,1,500 o gefnogwyr ar droed, gan gynnwys menywod a phlant a band o gerddorion wedi’u llogi yn nhafarn y Plough and Harrow, ychydig filltiroedd i’r gogledd o Gaerfyrddin. Beca yn unig oedd mewn cuddwisg, yn edrych yn ysblenydd mewn wig gyrliog euraid ar gefn ceffyl gwyn.

Wedi cyrraedd yng Nghaerfyrddin, cyfarfu cefnogwyr Beca â band arall o Sanclêr cyn gorymdeithio o gwmpas y dref gyda’u cerddorion a’u baneri protest. Y bwriad wedyn oedd symud i’r Clos Mawr i gyfarfod â swyddogion a chyflwyno eu gofynion am gyfiawnder yn erbyn nifer fawr o gwynion. Cyn y gallai hynny ddigwydd, ac awgrymwyd nifer o resymau posib am yr hyn a ddigwyddodd wedyn, cymerodd rhan o’r dorf lwybr arall a dechrau symud tuag at wyrcws Caerfyrddin a mynnu eu ffordd i mewn iddo, ac mewn ysbryd o gyffro mawr (honnwyd fod un fenyw yn dawnsio ar y byrddau) dechreuasant ddinistrio’r adeilad. Ar yr union adeg honno carlamodd 29 dyn o’r 4th Light Dragoons i’r fan o dan arweiniad yr Uwchgapten Parlby oedd newydd gyrraedd o Gaerdydd trwy Bontarddulais. Aeth pethau’n anhrefn llwyr a chafodd Beca a’i mintai eu trechu’n llwyr, gan ddianc o’r fan neu gael eu harestio.

Er y gellid honni y gorffennodd y diwrnod cofiadwy hwn gyda Beca’n cael ei threchu, roedd beiddgarwch y digwyddiadau yn golygu y cyrhaeddodd y newyddion y llywodraeth yn Llundain, y Frenhines Victoria a phapur newyddion The Times yn gyflym iawn. Trwy gyfnod o newyddion treiddgar ac adroddiadau eraill, a ganfu’n bennaf o blaid cwynion Beca, cafwyd proses o ymchwilio, a arweiniodd yn fwyaf nodedig at ddiwygio’r Ymddiriedolaethau a’r tollau Tollborth oedd yn destun y fath gasineb. Erbyn hyn mae materion gormesu ac ecsploetio tlodion Sir Gaerfyrddin gan y dosbarth bonedd a’u swyddogion yn cael eu hystyried yn faterion llawer mwy cymhleth a phellgyrhaeddol na mater syml tollau ffyrdd yn unig. Mewn rhai ffyrdd gellid ystyried y diwygiadau amlwg hyn yn ffordd gyfleus i lywodraeth y dydd ddiystyru llawer o anghenion dybryd y boblogaeth ar y pryd. Fodd bynnag, mae buddugoliaeth ysbrydol y bobl a’u harweinydd rhyfeddol wedi parhau’n rhan o ymwybyddiaeth genedlaethol pobl Cymru fyth ers hynny.


Efallai y byddai ymchwil pellach ar darddiad posib Cragen Beca a’i thaith i bentref Talog yn awgrymu rhai syniadau gwahanol neu ategol am ei phresenoldeb yn y pentref.

Mae gan The Art Journal o 1874 [6] (ychydig yn ddiweddarach na chyfnod Terfysgoedd Beca) bennod ar y defnydd o gregyn yn y celfyddydau a dywed y mewnforiwyd 300,000 o Gregyn Tro y Frenhines i Lerpwl mewn un flwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt i’w defnyddio i gynhyrchu porslen. Mae’n bosib y gallai’r gragen fod wedi cyrraedd crochendai Llanelli neu Abertawe, ac oddi yno i’r gorllewin i Dalog.

Mae’n ddiddorol nodi nad oes gan Gragen Beca y wefus allanol ymledol sy’n nodweddiadol o Gragen Dro y Frenhines. Nid yw hynny’n angenrheidiol ar gyfer chwythu’r gragen, ac fe’i cysylltwyd yn hanesyddol â’r diwydiant cerfio cameo yn yr Eidal yn y 18fed a’r 19eg ganrif (weithiau Ffrainc a Llundain hefyd – ond yr Eidal yn bennaf). Byddai’r wefus yn unig wedi cael ei chymryd ar gyfer ei cherfio ac roedd corff y gragen yn wastraff i bob pwrpas. Nid yw’n ymddangos fod unrhyw gysylltiadau allai gysylltu gorllewin Cymru â’r diwydiant arbennig hwn. Mae’n ymddangos er hynny y torrwyd y wefus i ffwrdd yn fwriadol.

Cyfeiriodd stori newyddion ym Mehefin 2020 at gwch a ataliwyd gan Reolaeth Forol Llu’r Ffiniau y DU ar ei ffordd i arfordir Cymru. Wedi chwilio’r cwch yn Noc Penfro, darganfuwyd 7.5kg o gregyn tro a chwrel (y mae angen hawlenni mewnforio arbenigol ar eu cyfer) ymhlith anifeiliaid môr ac arfau gwaharddedig ac mewn perygl eraill. Cafodd dyn o Gymru ei arestio. Dywedodd David Smith o Lu’r Ffiniau, “Wildlife trafficking groups use the same routes as criminals engaged in other forms of smuggling, including drugs and firearms…”. [7]. Roedd smyglo yn ogystal â môr-ladrata a llongddryllio hefyd yn rhemp ar hyd arfordiroedd gorllewin Cymru rhwng y 16eg – 19eg Ganrif a phwy all ddweud na chyrhaeddodd Cragen Beca ar fwrdd cwch smyglwr neu wedi’i chuddio ynghanol y contraband yng nghilfachau a childraethau Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion?

Ceir adroddiadau y defnyddiwyd cyrn cragen tro yng Nghernyw ac ardaloedd arfordirol yn gyrn niwl. Roeddent hefyd yn gymharol gyffredin yng ngogledd Cymru, lle y byddent yn cael eu defnyddio ar y ffermydd i alw’r gwartheg neu’r gweithwyr fferm, ac efallai y cyrhaeddodd y cregyn hyn ogledd Cymru o Lerpwl. Efallai y teithiodd Cragen Beca i’r de-orllewin oddi yno – cael ei masnachu neu ei phrynu mewn marchnad ffermwyr neu ei rhoi’n anrheg trwy gysylltiadau teuluol. Mae gan y gragen patina treuliedig sy’n awgrymu y bu llawer o drafod arni dros y blynyddoedd, gallai fod wedi bod ar fferm am rai cenedlaethau yn cyflawni’r math hwnnw o bwrpas.


Mae’n bwysig nodi yma y byddai’r math yma o gragen trymped wedi cael ei defnyddio hefyd ar blanhigfeydd caethweision yn y Caribî a threfedigaethau eraill ar gyfandiroedd America.

Mae’n ddigon posib y cyrhaeddodd Cragen Beca Gymru ar lwybrau masnachu caethweision; boed trwy fasnachu uniongyrchol neu ar lwybrau cyfarwydd i Lerpwl neu Fryste.

Roedd cysylltiadau masnachol uniongyrchol rhwng Cymru a masnach gaethwasiaeth Môr yr Iwerydd. O ganol yr 17eg ganrif tan yr 1830au roedd lliain o’r enw ‘Welsh Plains’ yn cael ei ddanfon i ddilladu caethweision ar y planhigfeydd (er ei bod yn anodd dychmygu defnydd llai addas ar gyfer yr hinsawdd). Deuai’r rhan fwyaf ohono o’r Canolbarth, Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd, ger y ffin â Lloegr. Gwlân defaid Swydd Amwythig a ddefnyddid fel arfer ond roedd yn cael ei bannu ym melinau Cymru.

Roedd y diwydiant copr hynod broffidiol a arloeswyd yng Nghymru hefyd yn rhan fawr o economi gaethwasiaeth o’r 17eg ganrif ac ymlaen tan yr 1850au. Roedd porthladd Abertawe yn allforio copr a broseswyd yn arbennig ar gyfer masnachu caethweision yn Affrica yn yr 17eg ganrif, ac i Abertawe yn unig yr oedd mwyn copr o fwynfeydd El Cobre yng Nghiwba yn cael ei fewnforio yn y 19eg ganrif. Roedd y broses fewnforio yn defnyddio caethweision o Giwba ymhell y tu hwnt i Ddeddf Dileu Caethwasiaeth 1833 ym Mhrydain a hyd yn oed ddeddf Atal y Fasnach Gaethwasiaeth yn 1843 oedd yn ceisio gwneud hynny yn fwy effeithiol.


Gwyddom hefyd y gellir olrhain gwreiddiau mudiad Beca yn glir iawn i arfer y Ceffyl Pren yng Nghymru. Arfer oedd hwn a fyddai’n sicr o fod wedi bod yn nodwedd bywyd yn Sir Gaerfyrddin hyd at ganol y 19eg ganrif.

Roedd yr arddangosfa liw nos hon yn fath o gyfiawnder cymunedol a weinyddwyd gan reithgor a blaenor lle roedd y broses ddefodol o fychanu drwgweithredwr honedig yn cael ei chyflawni. Roedd hynny’n aml yn golygu clymu’r dihiryn i ffrâm bren a’u gorymdeithio o gwmpas y tai i gyfeiliant ‘cerddoriaeth fras’. Fel arfer roedd y rheithgor a’r blaenor a gyflawnai’r ddefod yn duo eu hwynebau a byddai’r dynion yn aml iawn yn gwisgo dillad menywod. O ddefnyddio’r dychymyg, efallai hefyd y bu gan Gragen Beca rôl yma hefyd, rhan o’r dwndwr amhersain oedd yn nodweddu’r ddrama.


Defnyddiwyd y corn cragen tro gan ddiwylliannau ar draws y byd ar gyfer cerddoriaeth a dathliadau, ar gyfer arwyddo ar y môr ac ar dir, ac at ddibenion defodol, cwlt a chrefyddol. Mae digonedd o’r gwahanol fathau ohonynt ar gael i’w casglu ar lan y môr, mae’n ddigon hawdd eu troi’n offeryn ac mae ei sain yn drawiadol a chysain. Defnyddir cragen dro y Frenhines yn weddol rheolaidd o hyd yn y Caribî gan bysgotwyr a ffermwyr ac fel rhan o garnifalau a gwyliau.

Fel y dywed Jeremy Montagu yn ei arolwg hanesyddol o gyrn cregyn tro: “The Conch can claim to be one of humanity’s first trumpets or horns, perhaps indeed the first, for one has been found in one of France’s caves from the Upper Paleolithic period dating back some 20,000 years.” [8].

Yn wir, yn 2021 cadarnhawyd fod cragen dro yng nghasgliad Museum de Toulouse yn 17,000 mlwydd oed. Llwyddodd un o’r gwyddonwyr, sydd hefyd yn chwaraewr corn medrus, i chwarae tri nodyn arni, sef C, D ac C llonnod. Mae cynlluniau i’w chwarae yn yr ogof y tarddodd ohoni, a chred yr archaeolegydd Gilles Tosello y bydd yn “…a moment of great emotion”. [9]


Ni allwn ond dyfalu am darddiad Cragen Beca. Mae straeon cyfoethog ei hanes hir yn troi a throelli o’i chwmpas.

Dirgelwch o hyd yw sut cyrhaeddodd y gwrthrych atgofus hwn orllewin Cymru. Gwyddom ei bod o leiaf 180 mlwydd oed, ac efallai’n llawer hŷn. Gwyddom hefyd y treuliodd ganrif neu fwy wedi’i chuddio mewn cwpwrdd dan glo, a hithau’n rhy beryglus i siarad yn agored amdani.

Efallai fod cysylltiad posib Cragen Beca â’r fasnach gaethwasiaeth, pa mor uniongyrchol neu bellennig bynnag, yn cynnig cyseinedd dyfnach fyth i’w hymgnawdoliad diweddarach ar wefus ‘gwysiwr’ Beca. Yn ei anerchiad yn 1968 honnodd y Dr Martin Luther King Jr fod “…a riot is the language of the unheard”. [10] Roedd yn myfyrio ar dlodi cymdeithasol a’r diffyg cyfiawnder cyson i Americaniaid du eu crwyn. Er gwaethaf ei safiad cryf dros ddulliau di-drais, roedd yn deall mai ‘violent rebellions’ yn aml yw’r unig ffurf ar fynegiant sydd ar ôl i’r gorthrymedig.

Adeg ysgrifennu’r geiriau hyn, rydym yn byw trwy ganlyniadau marwolaeth George Floyd trwy ddwylo heddweision gwyn ym Minneapolis. Cynhaliwyd gwrthdystiadau ledled y byd; rydym yn clywed ac yn gwrando ar leisiau mudiad Mae Bywydau Duon yn Cyfrif a gwelsom ddymchwel cofgolofn y masnachwr caethweision, Edward Colston, ym Mryste. Mae cofeb yr Is-gadfridog Thomas Picton yn nhref Caerfyrddin yn gofeb gyhoeddus arall sy’n cael cryn sylw oherwydd creulondeb diamau teyrnasiad Picton yn Llywodraethwr Trinidad (1797 – 1803). Ar yr 8fed Gorffennaf 2020, ymrwymodd Cyngor Sir Caerfyrddin i ailystyried priodoldeb cofeb Picton yn yr 21ain Ganrif; ar Orffennaf yr 8fed cynhaliwyd gorymdaith brotest ‘Picton must fall’ o’r Clos Mawr i’r gofeb. O fewn yr ardd ffensiog fechan sy’n amgau cofeb Picton, ceir mewn cyfosodiad anghyfforddus, blac glas yn coffáu gorymdaith Beca yn 1843 i mewn i Gaerfyrddin o’r Plough and Harrow yng nghwmni pobl Talog.


Efallai felly fod Cragen Beca, i’r gornel hon o Gymru, yn geg offeryn ar gyfer yr “hwtian”’ adleisiol hwnnw o ganrifoedd o brotest ar ei amryfal ffurfiau.  Symbol cymhleth, llawn dychymyg i bobl Sir Gaerfyrddin heddiw sy’n cynrychioli cyfiawnder, rhyddid, nerth a gwytnwch.

Kathryn Campbell 2021


 [1] Black and British: A Forgotten History, David Olusoga, Pan Books, Llundain, 2017, pp. 319 – 320

[2] DIED. On Saturday last, aged 37, Lieut. William Williams formerly of Machynlleth in North Wales, and late of the Brazillian Naval Service off the coast of Africa. In his earthly pilgrimage he lived the life of a free citizen and a true hearted sailor; and it may not be uninstructive for the world to know, or unacceptable for his few friends and lamenting relatives, to witness this tribute of affectionate remembrance in recording it, – that in his short career, chequered like the ocean he had traversed with alternate sunshine and storm, he uniformly and unobtrusively practiced within his narrow span of action, the unpretending and inherited qualities of “peace, charity and goodwill.” their genial influence solaced his last moments, so that nothing in his life became him like the ending of it. He died the fervid confiding Christian; like a weary traveler he sank to eternal rest in speechless devotion, in dying faith, and communion with God. Peace to his gentle spirit! A gratifying and lasting consolation yet survives, that in the sanctity of attachment that embalms the memory of departed friendship, human affection appears to approach the immortality for which it was designed. His remains were consigned to the tomb at St. Ishmael’s, Carmarthenshire, within the sound of that element to which he had in early life been wedded, and to which he had devoted a light-hearted and fleeting existence.

The Cambrian, p.3, 18 Chwefror 1832.

[3] TALOG. The Election. – A great meeting in support of Mr John Hinds, the Liberal candidate for West Carmarthenshire, was held at Bethania Chapel, Talog, on Tuesday night. On the approach of the motor car being seen in the distance, the historic horn of Rebecca Riots fame was sounded, and afterwards a torchlight procession was formed. The Chairman of the meeting was Mr David Griffiths, Glasfryn, who briefly opened the proceedings, and then called on Mr Hinds to address the audience. Mr Hinds, in a telling speech, which was delivered with great earnestness, greatly denounced the power of the Lords, and hoped this block against freedom and justice would soon be removed. Thereby the great Welsh Bill now in hand would soon become law. Mr Hinds was followed by Mr Huws Davies, of London; Rev. D.G. Williams, St. clears; Rev. D. Talog Griffiths. A vote of confidence in Mr Hinds was proposed by the Rev. J. Lewis, Blaencoed, and carried unanimously.

The Welshman, p.8,  9 Rhagfyr 1910

[4] Cyngor Tref Caerfyrddin http://www.carmarthentowncouncil.gov.uk/Parks_1965.aspx

[5] Liberal Government and Politics, 1905 – 15, Ian Packer, Palgrave Macmillan, Efrog Newydd, 2006, p.108

[6] The Art Journal, pp. 52 – 54, Marine Contributions to Art, Virtue & Co, Llundain, 1874

[7] Endangered animal parts seized in Pembrokeshire boat raid, BBC News, 18 Mehefin 2020

[8] The Conch Horn: Shell Trumpets of the World from Prehistory to Today, Jeremy Montagu, Hataf Segol Publications, 2018, p.1 (introduction)

[9] Conch shell in French museum found to be 17,000-year-old wind instrument, Esther Addley, The Guardian, 10 Chwefror 2021

[10] The Other America, Speech by Rev. Martin Luther King, Jr. Grosse Pointe High School, 14 Mawrth 1968

Bibliography

The Rebecca Riots: A study in agrarian discontent, David Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1986

Rebecca’s Children: A study of rural society, crime, and protest, David J.V. Jones, Clarendon Press, Oxford 1989

Rebecca Riots! The True Tales of the Transvestite Terrorists who Vexed Victoria, Henry Tobit Evans (1844-1908) @ David M. Goss 2010

Petticoat Heroes: Gender, Culture and Popular Protest in the Rebecca Riots, Rhian E. Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2015

And they blessed Rebecca: An account of the Welsh Toll-gate Riots 1839-1844, Pat a Malloy, Gwasg Gomer, Llandysul, 1983

Welsh Folk Customs, Trevor M. Owen, Gwasg Gomer, Llandysul, 1994

Customs in Common: Studies in Traditional Popular Culture, E.P. Thompson, Rough Music p. 467 – 531, The New Press, Efrog Newydd, 1993

The Conch Horn: Shell Trumpets of the World from Prehistory to Today, Jeremy Montagu, Hataf Segol Publications, 2018

Shells as Evidence of the Migrations of Early Culture, Wilfred Jackson, Manchester University Press, Manceinion, 1917); p. 33–69.

Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery 1660-1850, Chris Evans, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2010

Our Mother’s Land: Chapters in Welsh Women’s History 1830-1939, Ed. Angela V. John, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1991

The Naval Miscellany Vol Vlll, Ed. Brian Vale, Routledge, Llundain ac Efrog Newydd, 2017

Britannia’s Dragon: A Naval History of Wales, J.D.Davies, The History Press Ltd, 2013

The Sailors’ Graves, J.D. Davies – Historian and Author, 7 Mawrth 2012

Navies in Modern World History, Laurence Sondhaus, Shaping the Southern Colossus: The Brazilian Navy, 1822 – 31, p.78 – 105, Reaktion Books, Llundain, 2004

Diolch i Jeremy Montagu a fu’n ddigon caredig i drafod a rhannu ei wybodaeth a’i arbenigedd ar destun y Trymped Cragen. Mae Jeremy yn gyn guradur Casgliad Bate o Offerynnau Cerddorol a darlithydd ym Mhrifysgol Rhydychen (1981-95), y Gyfadran Gerdd; casglwr ac ymgynghorydd rhyngwladol i amgueddfeydd a chyrff celfyddydol; Cymrawd Cymdeithas Hynafiaethau a Llywydd Cymdeithas Galpin (y brif gymdeithas ryngwladol ar gyfer astudio offerynnau cerdd).