Rhoddwyd Cregyn Rebeca i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, gan ddisgynnydd y perchennog gwreiddiol, Gwynfor Phillips yn yr 1980au ac roedd hanes y gragen hon yn rhan o’r ddogfen a’i gwasanaeth.
Cragen Beca – Hanes byr
Pan oeddwn yn blentyn cadwyd “Cragen Beca” o dan glo mewn cwpwrdd pren bychan, wedi’i guddio y tu ôl i soffa ym mharlwr fy mam-gu yn Nhalog. Ar un adeg bu ei chartref yn dafarn y “Castle Inn”, lle y bu ei thad a’i thad-cu yn dafarnwyr, ac ymhen amser etifeddodd hi y cartref.
Yn ystod Terfysgoedd Beca (1839-46) rhoddwyd y gragen hon (Cragen Beca) i’r tafarnwr, sef fy hen hen dad-cu, ac fe’i defnyddiwyd ganddo i alw’r dilynwyr i gyfarfodydd cudd ac ati. Ef oedd y cynullydd swyddogol. O’r herwydd roedd ganddo ran bwysig iawn yn y Terfysgoedd oedd yn ei roi mewn sefyllfa o berygl sifil mawr. Pan ddaeth Terfysgoedd Beca i ben aeth yr awdurdodau ati i gorlannu pawb fu’n gysylltiedig â’r terfysgoedd. Cafodd llawer eu dal, carcharwyd rhai, trawsgludwyd eraill, ac aeth llawer o ddynion o Dalog i guddio mewn llofftydd ffermydd a hyd yn oed yn y coed a amgylchynai’r pentref. Mae’n amlwg y bu’r tafarnwr yn ofalus iawn trwy gydol y cyfan gan na chafodd ei amau hyd yn oed!
Dim rhyfedd felly y cafodd y Gragen ei chuddio mor ofalus – am ganrif gyfan cafodd ei chyfrinachau eu cadw mor dawel fel na fyddai fy mam-gu ond yn ei dangos ar adegau prin, ac ni fyddai ond yn sibrwd amdani hyd yn oed! Unwaith yn unig y’i clywais yn cael ei chwythu’n gyhoeddus, a hynny’n ddiarwybod iddi hi. Yr achlysur oedd llwyddiant ymgeisydd Rhyddfrydol mewn etholiad seneddol. Roedd fy ewythr wedi mynd â’r gragen o’i chuddfan a chwythu ei lawenydd o ben y bryn, gweithred ffôl ac annisgybledig a barodd iddo gael ei gosbi’n eiriol a chorfforol gan ei fam!
A dyma droi at darddiad Cragen. Byddai’r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno mai’r trefnydd athrylithgar y tu ôl i Derfysgoedd Beca yng ngorllewin Cymru oedd cyfreithiwr o Gaerfyrddin, Mr. Hugh Williams, brodor o Fachynlleth a briododd wraig o Sanclêr, gan weithio’n gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ond byw yng Nghydweli. Derbynnir fod ganddo dueddiadau radical a bod ganddo gydymdeimlad â’r Siartwyr. Ffermwyr a gweithwyr fferm oedd Merched Beca yn bennaf, y rhan fwyaf ohonynt yn anllythrennog, ac ni fyddai gan y rhan fwyaf ohonynt y gallu i drefnu ymgyrch guddiedig ond disgybledig iawn o’r fath. Roedd yn galw am feddwl craff, deallus i gynnull cymunedau gwasgaredig o ffermwyr rhwystredig iawn yn rym effeithiol, a phwy well na’r cyfreithiwr pragmataidd o Gaerfyrddin?
Mae’n ymddangos fod gan Hugh Williams frawd a wasanaethai yn gonswl neu’n Was Sifil yn Sierra Leone, a’i fod wedi’i leoli yn Freetown, a sefydlwyd yn wreiddiol yn Granville yn 1788 yn gartref i gaethweision o Affrica a ryddhawyd. Roeddent wedi dod o ynysoedd y Caribî a thir mawr America.
Yn ystod rhyfel 1939 – 45 gwasanaethais yn y Llynges Frenhinol, ac yn ystod un o fy ymweliadau â Freetown gwelais angladd brodor. Arweinydd y cynhebrwng oedd dyn a chwythai’r gragen dro, gan gyfeirio’r sain tuag at y môr. Roedd y sain yn ddigamsyniol, yr un sain “hwtian” adleisiol ag a glywais yn Nhalog flynyddoedd ynghynt! Buom yn siarad â’r dyn hwn a esboniodd mai’r traddodiad oedd hysbysu’r ysbrydion oedd yn byw yn y môr pryd bynnag y byddai enaid morwr yn dychwelyd i’w orffwysfan terfynol. Fe’m hatgoffwyd yn syth o dduw Triton yn chwedloniaeth Roeg a reolai’r tonnau trwy chwythu ei gragen dro.
A yw’n rhy annhebygol i dybio y cafodd Hugh Williams y gragen, a ddaeth yn “Gragen Beca”, gan ei frawd, a bod yntau yn ei dro wedi’i rhoi i dafarnwr y Castle Inn Talog i’w defnyddio gan y “cynullydd” i alw’r dilynwyr?
(A chan nad yw’r gragen yn gynhenid i Orllewin Affrica, a yw y tu hwnt i ffiniau posibilrwydd y daethpwyd â hi i Sierra Leone gan un o’r caethweision a ryddhawyd?
*Dyfalu yw hyn, wrth gwrs.