Jonathan Pugh

Mae Jonathan Pugh wedi bod yn rhan annatod o brosiect Cragen Beca fel tiwtor ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac fel perfformiwr. Mae wedi ysbrydoli ac annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y prosiect yn ogystal â pherfformio yn un o wisgoedd Beca yn y Cragen Beca Parade ac yn y gwaith ffilm Dod yn Beca // BecomingBeca.

Mae Jonathan yn uwch ddarlithydd perfformiad yn PCYDDS Caerfyrddin. Yn greadigol, mae Jonathan bob amser wedi integreiddio gwaith digidol a chyfryngau cymdeithasol i ymarfer theatr traddodiadol i greu paradeimau perfformio blaengar gyda myfyrwyr.

Ar ôl graddio mewn Astudiaethau Theatr o Brifysgol Aberystwyth bu Jonathan yn gweithio gydag ymarferwyr a chwmnïau ym myd celfyddydau theatr Cymru, gan gynnwys Eddie Ladd, CliffMcLucas, Sera Moore Williams (Cwmni’r Gymraes), Sian Summers (Cwmni Rhiniog), Theatr Spectacle.

Mae’n parhau i hyfforddi gydag ymarferwyr theatr gorfforol a dawns i gyfuno ymarfer ag archwilio personol ac ymchwil proffesiynol. Dros y blynyddoedd mae hyn wedi cynnwys Henry McGrath, Simon Whitehead, Phillip Zarrilli, cwmni theatr Pantson Fire, Cai Tomos, Eeva-Maria Mutka, Told by an Idiot, Andy Paget, Bronwen Preece, Tetsuro Fukuhara, Jo Fong, ac Ailsa Richardson.

 

Mae ymarfer creadigol – gyda myfyrwyr yn bennaf – yn canolbwyntio ar strwythurau naratif syml a’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd i’n hunain. Fodd bynnag, mewn byd cynyddol ddigidol, datgelir cyfleoedd newydd i archwilio’r ‘hunan’ fel awduron a chynhyrchwyr y naratif hwnnw, a daw’r amlhaenog yn ymgorfforiad o hunan newydd.


Mae prosiectau newydd mewn perfformiad ar safle, ymarfer corfforol mewn natur ar gyfer gwell iechyd meddwl, perfformiad hunan: hunaniaeth all-lein, ar-lein ac mewn VR yn cael eu datblygu.

Jonathan Pugh has been an integral part of the Cragen Beca project both as a tutor at University of Wales Trinity Saint David and as a performer. He has inspired and encouraged students to get involved with the project as well as performing in one of the Beca costumes in both the Cragen Beca Parade and in the film work Dod yn Beca // Becoming Beca.

Jonathan is a senior performance lecturer at UWTSD Carmarthen. Creatively, Jonathan has always integrated digital and social media work into traditional theatre practice to create cutting edge performance paradigms with students. 

After graduating in Theatre Studies from Aberystwyth University Jonathan worked with practitioners and companies in the Welsh theatre arts scene, including Eddie Ladd, Cliff McLucas, Sera Moore Williams (Cwmni’r Gymraes), Sian Summers (Cwmni Rhiniog), Spectacle Theatre.  

He continues to train with physical theatre and dance practitioners to blend practice with personal exploration and professional research. Over the years this has included Henry McGrath, Simon Whitehead, Phillip Zarrilli, Pants on Fire theatre company, Cai Tomos, Eeva-Maria Mutka, Told by an Idiot, Andy Paget, Bronwen Preece, Tetsuro Fukuhara, Jo Fong, and Ailsa Richardson. 

Creative practice – predominantly with students – focuses upon simple narrative structures and the stories we tell ourselves. However, in an increasingly digital world, new opportunities for exploring ‘self’ as authors and producers of that narrative are uncovered, and the multi-layered becomes the embodiment of a new self.  

New projects in site-located performance, physical practice in nature for improved mental health, the performance of self: identity offline, online and in VR are in development.  

Llun // image: Jen Caldwell

Parade performances || Perfformiadau parêd

Parêd Cragen Beca Parade | 01.05.2022

Gathering outside || Casglu tu allan Oriel Myrddin Gallery – 1:30pm

With performances from || Gyda pherfformiadau oddi wrth:


Qwerin

Image courtesy of || Y ddelwedd drwy garedigrwydd Osian Meilir

Qwerin is a contemporary dance performance by Osian Meilir that extends the boundaries of traditional Welsh folk dance. Taking inspiration from Queer club culture and the weaving, flowing patterns of folk dance, ‘Qwerin’ is a Welsh folk dance with a twist. 
Qwerin was commissioned by the Wales Outdoor Arts Consortium through Articulture‘s ‘Open Out 2021’ callout.

Mae Qwerin yn berfformiad dawns gyfoes gan Osian Meilir sy’n estyn ffiniau’r ddawns werin Gymreig. Gan gymryd ysbrydoliaeth o ddiwylliant clwb Queer a llif patrymau clymog dawnsio gwerin, mae Qwerin yn ddawns werin Gymreig wahanol i’r arfer.

Cafodd Qwerin ei gomisiynnu gan y Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru a hynny drwy galwad ‘AgorAllan 2021’ cwmni Articulture.


Dawnswyr Talog

Image courtesy of || Y ddelwedd drwy garedigrwydd Dawnswyr Talog

First set up in 1979 thanks to the vision of Eirlys and Mansel Phillips and Eirwen Davies, Dawnswyr Talog are one of Wales’ most prominent traditional dance groups. They have garnered a reputation both national and international for folk dance and have put the little village of Talog on the map. 

As well as promoting Welsh folk dancing, Dawnswyr Talog’s main aim is to entertain and have fun, ensure that the richness of our dance tradition continues.

Sefydlwyd Dawnswyr Talog am y tro cyntaf yn 1979 diolch i Eirlys a Mansel Phillips ac Eirwen Davies, ac mae’n un o grwpiau dawns draddodiadol amlycaf Cymru. Maent wedi ennyn enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ddawns werin ac wedi rhoi pentref bach Talog ar y map.

Yn ogystal â hyrwyddo dawnsio gwerin Gymreig, prif nod Dawnswyr Talog yw diddanu a chael hwyl, sicrhau bod cyfoeth ein traddodiad dawns yn parhau.


Sesiwn Werin y Baedd

Image courtesy of || Y ddelwedd drwy garedigrwydd Sesiwn Werin y Baedd

Based in Carmarthen, Sesiwn Werin y Baedd are a crew of local people who enjoy playing Welsh folk music. The meaning behind their name translates to The Boar’s Folk Session and this is where you can find them once a month – the Boar’s Head public house on Lammas Street, Carmarthen. 

Sesiwn Werin y Baedd will be offering a musical accompaniment as we parade down to Guildhall Square on Sunday 1 May.

Wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, mae Sesiwn Werin y Baedd yn griw o bobl leol sy’n mwynhau chwarae cerddoriaeth werin Gymraeg. 

Bydd Sesiwn Werin y Baedd yn cynnig cyfeiliant cerddorol wrth i ni orymdeithio i lawr i Sgwâr y Guildhall ddydd Sul 1 Mai.


Sweet Harmony Community Choir

Image courtesy of || Y ddelwedd drwy garedigrwydd Heather Birnie

Created and led by Maya Waldman, Sweet Harmony was born in April 2014 with an eager and committed group of 40 singers. 

The groups main emphasis is on enjoying the learning and singing of beautiful songs together. They sing a rich variety of music from folk song to Blues, Gospel and the occasional popular classic and contemporary songs too.

They have performed at The National Botanical Gardens, Narberth A capella Voice Festival, Carmarthen Inter-faith day and Carmarthen White Ribbon Walk.

Wedi’i greu a’i arwain gan Maya Waldman, cafodd Sweet Harmony ei eni ym mis Ebrill 2014 gyda grŵp eiddgar ac ymroddedig o 40 o gantorion.

Mae prif bwyslais y grŵp ar fwynhau dysgu a chanu caneuon hardd gyda’i gilydd. Byddant yn canu amrywiaeth gyfoethog o gerddoriaeth o gân werin i Blues, Gospel a’r caneuon clasurol a chyfoes poblogaidd achlysurol hefyd. 

Maen nhw wedi perfformio yn Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Gŵyl Llais A capella Arberth, Diwrnod Rhyng-ffydd Caerfyrddin a Thaith Rhuban Gwyn Caerfyrddin.

Sweet Harmony Community Choir

We’re delighted to welcome Sweet Harmony Choir to the Cragen Beca Parade!

Created and led by Maya Waldman, Sweet Harmony was born in April 2014 with an eager and committed group of 40 singers.

The groups main emphasis is on enjoying the learning and singing of beautiful songs together. They sing a rich variety of music from folk song to Blues, Gospel and the occasional popular classic and contemporary songs too.

They have performed at The National Botanical Gardens, Narberth A capella Voice Festival, Carmarthen Inter-faith day and Carmarthen White Ribbon Walk.


Rydym yn falch iawn o groesawu Sweet Harmony Choir i’r Parêd Cragen Beca!

Wedi’i greu a’i arwain gan Maya Waldman, cafodd Sweet Harmony ei eni ym mis Ebrill 2014 gyda grŵp eiddgar ac ymroddedig o 40 o gantorion.

Mae prif bwyslais y grŵp ar fwynhau dysgu a chanu caneuon hardd gyda’i gilydd. Byddant yn canu amrywiaeth gyfoethog o gerddoriaeth o gân werin i Blues, Gospel a’r caneuon clasurol a chyfoes poblogaidd achlysurol hefyd.

Maen nhw wedi perfformio yn Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Gŵyl Llais A capella Arberth, Diwrnod Rhyng-ffydd Caerfyrddin a Thaith Rhuban Gwyn Caerfyrddin.

Simon Whitehead

Mae’r artist symud Simon Whitehead wedi gweithio gyda mi i ddatblygu symudiadau gyda thri pherfformiwr a fydd yn gwisgo gwisgoedd Cragen Beca ar gyfer ffilm artist a fydd yn cael ei dangos ochr yn ochr â’r gwisgoedd yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili o 14 Mai.

Yn wreiddiol yn Geograffydd, hyfforddodd Simon mewn Dawns yn Llundain ac Efrog Newydd ar ddechrau’r nawdegau. Mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd y mae pobl bob amser yn symud mewn gohebiaeth â grymoedd, bodau a deunyddiau eraill a bod dawns yn ffordd o ddod adref ar y ddaear gyda’n gilydd – nid ydym byth yn symud ar ein pen ein hunain. Mae Simon wedi teithio’n eang gyda’i waith a thros y 10 mlynedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ei ymarfer yn nes at adref. Mae’n aelod o Maynard Abercych CIC, artist rhyngddisgyblaethol ar y cyd sy’n cydweithio ar raglen o weithgarwch dawns yn gysylltiedig ym mhentref Abercych gorllewin Cymru. Gyda’i gilydd, maent yn rheoli dawns Twmpath/pentref, yn gweithio drwy breswyliadau dawns barhaus, gweithdai, partneriaethau lleol a rhyngwladol.

Mae yng nghanol PhD (Ymarfer fel Ymchwil) a ariennir gan yr AHRC ym Mhrifysgol Glasgow. Mae’n meddwl am syniadau ecolegol Posthuman mewn perthynas â choreograffau o gyffwrdd ac effaith. Mae Simon hefyd yn therapydd Craniosacral.

Simon has lived and worked in rural Wales for the last 28 years. He currently lives in Abercych with his partner/ dancer Stirling Steward and his 2 daughters.


Movement artist Simon Whitehead has worked with me to develop movements with three performers to wear the Cragen Beca costumes for an artist’s film which will be shown alongside the costumes at Carmarthenshire Museum, Abergwili from 14 May.

Originally a Geographer, Simon trained in Dance in London and New York in the early nineties. He is interested in how humans are always moving in correspondence with other forces, beings and materials and that dance is a way to become at home on the earth with each other – we are never moving alone.

Simon has travelled widely with his work and over the last 10 years has focussed his practice closer to home, he is a member of Maynard Abercych CIC, an interdisciplinary artist collective that collaborate on a programme of engaged dance activity in the village of Abercych west Wales. Together, they manage the Twmpath/village dance, work through ongoing dance residencies, workshops, local and international partnerships.

He is in the midst of an AHRC-funded PhD (Practice as Research) at The University of Glasgow, he is thinking about Posthuman ecological ideas in relation to choreographies of touch and affect. An artist book is emerging out of this work. Simon is also a Craniosacral therapist.

Dawswyr Talog

Dawnswyr Talog yw un o grwpiau dawns traddodiadol amlycaf Cymru, ac ers 1979 maent yn sicr wedi rhoi pentref bychan Talog, sydd nepell o Gaerfyrddin, ar y map!

Mae’r dawnswyr a’r cerddorion yn cyfarfod yn Neuadd Talog ond mae dylanwad Dawnswyr Talog yn ymestyn dipyn pellach na hyn. Mae cyfeillgarwch gyda thimau dawns led-led Ewrop, ac ymweliadau â gwyliau gwerinol amrywiol wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i Dawnswyr Talog.

Yn ogystal â hybu dawnsio gwerin Cymreig, prif amcan Dawnswyr Talog yw diddanu a chael hwyl, oherwydd dyma sy’n mynd i sicrhau bod cyfoeth ein traddodiad dawns yn parhau.

We’re pleased to announce that traditional folk dance group Dawnswyr Talog will be performing at the finale of the Creagen Beca Parade on Sunday 1 May 2022, the parade starts at 2pm outside Oriel Myrddin Gallery.

Dawnswyr Talog dancers are one of Wales’s most prominent traditional dance groups, and since 1979 they have certainly put the small West Wales village of Talog, close to Carmarthen, on the map!

The dancers and musicians meet at Talog Community Hall but the influence of Dawnswyr Talog extends far beyond this. Friendships with dance teams throughout Europe, and visits to various folk festivals have given Welsh traditional dance an international platform.

As well as promoting Welsh folk dancing, Dawnswyr Talog’s main aim is to entertain and have fun, as this is the best way to ensure that the richness of our dance tradition continues.

Qwerin

Rydym yn falch iawn o groesawu Qwerin i’r Parêd Cragen Beca! Bydd Qwerin performio yn Sgwâr y Neuadd, Caerfyrddin ar ddiwedd yr parêd ar Dydd Sul 1 Mai 2022.

Mae Qwerin yn berfformiad dawns gyfoes sy’n estyn ffiniau’r ddawns werin Gymreig. Gan gymryd ysbrydoliaeth o ddiwylliant clwb Queer a llif patrymau clymog dawnsio gwerin, mae Qwerin yn ddawns werin Gymreig gyda thwist.

Roedd Qwerin, wedi ei gomisiynnu gan y Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru a hynny drwy galwad AgorAllan 2021 cwmni ArticultureCymru.


We are delighted to welcome Qwerin to the Cragen Beca Parade! Qwerin will perform in Guildhall Square, Carmarthen at the finale of the parade on Sunday 1 May 2022.

Qwerin is a contemporary dance performance that extends the boundaries of traditional Welsh folk dance. Taking inspiration from Queer club culture and the weaving, flowing patterns of folk dance, ‘Qwerin’ is a Welsh folk dance with a twist.

Qwerin was comissioned by Wales Outdoor Arts Consortium through Articulture Wales’s by Open Out 2021 callout.

Sesiwn Werin y Baedd

Dewch i gwrdd â Sesiwn Werin y Baedd ar y Parêd Cragen Beca ar Dydd Sul 1 Mai 2022!

Criw anffurfiol o bobol lleol i Gaerfyrddin sydd yn cwrdd unwaith y mis yn nhafarn Pen y Baedd ar Heol Awst yw Sesiwn Werin y Baedd. Fe ddown ni at ein gilydd er mwyn chwarae cerddoriaeth werin Gymreig – does dim rheolau o ran oedran, nifer na chwaith pa offeryn i chwarae, yr unig reol yw mai cerddoriaeth werin GYMREIG gaiff ei chwarae, ac mae ein nosweithiau yn gwbwl ddwyieithog Cymraeg a Saesneg. Mae croeso i unrhyw un ymuno – dilyn ein grwp facebook a dere draw!


Come and meet Sesiwn Werin y Baedd at the Cragen Beca Parade on Sunday 1 May 2022 ! Based in Carmarthen, the crew will be playing as we parade, and then perfoming more songs in Guildhall Square at the parade finale.

We call ourselves Sesiwn Werin y Baedd, meaning The Boar’s Folk Session, since we meet up once a month at the Boar’s Head tavern on Lammas street. We’re a crew of local people who enjoy playing Welsh folk music – indeed that is the only one rule we have – we welcome all ages, any number of people, playing whatever instrument as long as the music is WELSH folk. Anyone is welcome to join us – make sure to follow our group on facebook and come over!

Educate, agitate, organise

An exhibition of radical history posters // arddangosfa posteri hanes radical

Ochr yn Ochr Prosiect Cragen Beca, rydym yn dangos arddangosfa o bosteri hanes radical rhwng 25 Ebrill – 7 Mai yn Oriel Bevan Jones yn Ynghaerfyrddin ar y llwybr o’r Parêd Cragen Beca.

Bydd oriel yn agor yn arbennig ar diwrnod parêd, Dydd Sul 1 Mai 1-4pm.

Diolch i’r Arts Care // Gofal Celf am eu cefnogaeth o’r arddangosfa, mae Shaun Featherstone a Josh McPhee, ‘Just Seeds’ am cyfrannu casgliad o bosteri o’r cyfres Celebrating People’s History.

Oriel Bevan Jones, Stryd y Brenin, Caerfyrddin SA31 1BS


Alongside the Cragen Beca project, we’re showing an exhibition of radical history posters from 25 Abril – 7 May at Oriel Bevan Jones Gallery in Carmarthen along the route of the Cragen Beca Parade.

The gallery will open especially on parade day, Sunday 1 May 1-4pm.

Thank you to Arts Care // Gofal Celf for the generous support of the exhibition, Shaun Featherstone for curating the show and Josh McPhee from Just Seeds for kindly donating a collection of posters from the Celebrating People’s History series, many of which will be on show.

King Street, King Street, Carmarthen SA31 1BS.

Please check the gallery channels for opening times.

Cragen Beca a Talog

Rhoddwyd Cregyn Rebeca i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, gan ddisgynnydd y perchennog gwreiddiol, Gwynfor Phillips yn yr 1980au ac roedd hanes y gragen hon yn rhan o’r ddogfen a’i gwasanaeth.

Cragen Beca – Hanes byr

Pan oeddwn yn blentyn cadwyd “Cragen Beca” o dan glo mewn cwpwrdd pren bychan, wedi’i guddio y tu ôl i soffa ym mharlwr fy mam-gu yn Nhalog. Ar un adeg bu ei chartref yn dafarn y “Castle Inn”, lle y bu ei thad a’i thad-cu yn dafarnwyr, ac ymhen amser etifeddodd hi y cartref.

Yn ystod Terfysgoedd Beca (1839-46) rhoddwyd y gragen hon (Cragen Beca) i’r tafarnwr, sef fy hen hen dad-cu, ac fe’i defnyddiwyd ganddo i alw’r dilynwyr i gyfarfodydd cudd ac ati. Ef oedd y cynullydd swyddogol. O’r herwydd roedd ganddo ran bwysig iawn yn y Terfysgoedd oedd yn ei roi mewn sefyllfa o berygl sifil mawr. Pan ddaeth Terfysgoedd Beca i ben aeth yr awdurdodau ati i gorlannu pawb fu’n gysylltiedig â’r terfysgoedd. Cafodd llawer eu dal, carcharwyd rhai, trawsgludwyd eraill, ac aeth llawer o ddynion o Dalog i guddio mewn llofftydd ffermydd a hyd yn oed yn y coed a amgylchynai’r pentref. Mae’n amlwg y bu’r tafarnwr yn ofalus iawn trwy gydol y cyfan gan na chafodd ei amau hyd yn oed!

Dim rhyfedd felly y cafodd y Gragen ei chuddio mor ofalus – am ganrif gyfan cafodd ei chyfrinachau eu cadw mor dawel fel na fyddai fy mam-gu ond yn ei dangos ar adegau prin, ac ni fyddai ond yn sibrwd amdani hyd yn oed! Unwaith yn unig y’i clywais yn cael ei chwythu’n gyhoeddus, a hynny’n ddiarwybod iddi hi. Yr achlysur oedd llwyddiant ymgeisydd Rhyddfrydol mewn etholiad seneddol. Roedd fy ewythr wedi mynd â’r gragen o’i chuddfan a chwythu ei lawenydd o ben y bryn, gweithred ffôl ac annisgybledig a barodd iddo gael ei gosbi’n eiriol a chorfforol gan ei fam!

A dyma droi at darddiad Cragen. Byddai’r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno mai’r trefnydd athrylithgar y tu ôl i Derfysgoedd Beca yng ngorllewin Cymru oedd cyfreithiwr o Gaerfyrddin, Mr. Hugh Williams, brodor o Fachynlleth a briododd wraig o Sanclêr, gan weithio’n gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ond byw yng Nghydweli. Derbynnir fod ganddo dueddiadau radical a bod ganddo gydymdeimlad â’r Siartwyr. Ffermwyr a gweithwyr fferm oedd Merched Beca yn bennaf, y rhan fwyaf ohonynt yn anllythrennog, ac ni fyddai gan y rhan fwyaf ohonynt y gallu i drefnu ymgyrch guddiedig ond disgybledig iawn o’r fath. Roedd yn galw am feddwl craff, deallus i gynnull cymunedau gwasgaredig o ffermwyr rhwystredig iawn yn rym effeithiol, a phwy well na’r cyfreithiwr pragmataidd o Gaerfyrddin?

Mae’n ymddangos fod gan Hugh Williams frawd a wasanaethai yn gonswl neu’n Was Sifil yn Sierra Leone, a’i fod wedi’i leoli yn Freetown, a sefydlwyd yn wreiddiol yn Granville yn 1788 yn gartref i gaethweision o Affrica a ryddhawyd. Roeddent wedi dod o ynysoedd y Caribî a thir mawr America.

Yn ystod rhyfel 1939 – 45 gwasanaethais yn y Llynges Frenhinol, ac yn ystod un o fy ymweliadau â Freetown gwelais angladd brodor. Arweinydd y cynhebrwng oedd dyn a chwythai’r gragen dro, gan gyfeirio’r sain tuag at y môr. Roedd y sain yn ddigamsyniol, yr un sain “hwtian” adleisiol ag a glywais yn Nhalog flynyddoedd ynghynt! Buom yn siarad â’r dyn hwn a esboniodd mai’r traddodiad oedd hysbysu’r ysbrydion oedd yn byw yn y môr pryd bynnag y byddai enaid morwr yn dychwelyd i’w orffwysfan terfynol. Fe’m hatgoffwyd yn syth o dduw Triton yn chwedloniaeth Roeg a reolai’r tonnau trwy chwythu ei gragen dro.

A yw’n rhy annhebygol i dybio y cafodd Hugh Williams y gragen, a ddaeth yn “Gragen Beca”, gan ei frawd, a bod yntau yn ei dro wedi’i rhoi i dafarnwr y Castle Inn Talog i’w defnyddio gan y “cynullydd” i alw’r dilynwyr?

(A chan nad yw’r gragen yn gynhenid i Orllewin Affrica, a yw y tu hwnt i ffiniau posibilrwydd y daethpwyd â hi i Sierra Leone gan un o’r caethweision a ryddhawyd?

*Dyfalu yw hyn, wrth gwrs.